Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Deisebau


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd

Dyddiad: Dydd Mawrth, 19 Mawrth 2019

Amser: 09.00 - 09.45
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
5289


------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

Janet Finch-Saunders AC (Cadeirydd)

Mike Hedges AC

Neil McEvoy AC

Leanne Wood AC

Tystion:

Staff y Pwyllgor:

Graeme Francis (Clerc)

Ross Davies (Dirprwy Glerc)

Kathryn Thomas (Dirprwy Glerc)

Sam Davies (Cynghorydd Cyfreithiol)

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

</AI1>

<AI2>

2       Deisebau newydd

</AI2>

<AI3>

2.1   P-05-866 Ymgyrch Ymwybyddiaeth Gyhoeddus Sepsis - Cymru

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:

·         ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Gwasanaeth Gwaed Cymru i rannu'r wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd gan y deisebwyr a gofyn:

·         pa ystyriaeth a roddwyd i rinweddau penodol ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus mewn perthynas â sepsis;

·         am wybodaeth am yr amserlen ar gyfer datblygu cofrestr sepsis yng Nghymru; ac

·         am ei farn ynghylch galwad y deisebwyr am strategaeth ar gyfer goroeswyr a theuluoedd sy'n dioddef yn sgil sepsis.

·         am fanylion eu gwaith parhaus mewn perthynas â sepsis, gan gynnwys datblygu cofrestr sepsis; a'r 

·         potensial ar gyfer cynyddu ymwybyddiaeth o sepsis ymhlith gweithwyr iechyd proffesiynol a'r cyhoedd.

         

</AI3>

<AI4>

2.2   P-05-867 Gwneud Murlun ‘Cofiwch Dryweryn' yn dirnod Cymreig dynodedig

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn:

·         aros i gael barn y deisebydd ynghylch ymateb y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth; ac

·         ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog er mwyn:

·         gofyn am ddiweddariad ar ganlyniad y cyfarfod rhwng swyddogion, y cyngor cymuned a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol;

·         gofyn pa fesurau y gellid eu cymryd i ddiogelu'r murlun yn ffisegol; a

·         gofyn am wybodaeth ychwanegol am yr ystyriaeth flaenorol a roddwyd ynghylch a yw'r murlun yn bodloni'r meini prawf ar gyfer rhestru neu ddynodi fel heneb gofrestredig, a pha ystyriaeth a roddwyd i ddiweddaru'r meini prawf a ddefnyddir ar gyfer rhestru adeiladau o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig.

 

</AI4>

<AI5>

3       Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

</AI5>

<AI6>

3.1   P-05-786 Arbedwch ein cefn gwlad - dylid adolygu TAN 1

Cytunodd y Pwyllgor i:

·         ysgrifennu at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch yr adolygiad cyflenwi tai drwy'r system gynllunio, syniad o'r amserlenni ar gyfer cwblhau'r adolygiad, a chadarnhad y bydd paragraff 6.2 TAN 1 yn parhau i fod wedi'i ddatgymhwyso yn ystod y cyfnod hwnnw; ac

·         ystyried cynnal sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog ar sawl deiseb sy'n gysylltiedig â chynllunio mewn cyfarfod yn y dyfodol.

</AI6>

<AI7>

3.2   P-05-843 Mwy o hawliau trydydd parti mewn apeliadau cynllunio

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i:

 

 

 

</AI7>

<AI8>

3.3   P-05-845 Rhowch Derfyn ar Wrthdaro Buddiant yng Nghyfansoddiad Awdurdodau Lleol

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth bellach am y ddeiseb a chytunodd i gadw'r ddeiseb nes bod modd cynnal sesiwn dystiolaeth mewn cyfarfod yn y dyfodol gyda'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ar sawl deiseb sy'n gysylltiedig â chynllunio.

</AI8>

<AI9>

3.4   P-05-789 Adolygu cymorth i geiswyr lloches sy'n ymgymryd ag addysg bellach

Trafododd y Pwyllgor y camau gweithredu perthnasol yn 'Cenedl Noddfa – Cynllun Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches' Llywodraeth Cymru a chytunodd i:

 

</AI9>

<AI10>

3.5   P-05-808 Ni ddylai Cymraeg fod yn orfodol i blant â dyslecsia ac anghenion arbennig

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan riant arall ond, yng ngoleuni'r pwerau presennol sydd gan benaethiaid i ddatgymhwyso agweddau ar y Cwricwlwm Cenedlaethol dros dro, gan gynnwys y posibilrwydd o eithrio pynciau penodol dros dro, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb.

</AI10>

<AI11>

3.6   P-05-822 Gwahardd gwellt plastig (wrth yfed llaeth) yn ein hysgolion

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Llywodraeth Cymru a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Cyllid i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch canlyniad yr ymarfer peilot diweddar yn Sir Benfro, ac am unrhyw farn y mae Llywodraeth Cymru wedi dod iddi ynghylch y potensial ar gyfer ei weithredu'n ehangach.

</AI11>

<AI12>

3.7   P-05-832 Diwygio’r Cod Derbyn i Ysgolion ynghylch Plant a Anwyd yn ystod yr Haf

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan nifer o awdurdodau lleol a'r deisebwyr, a chytunodd i ysgrifennu eto i ofyn am yr ymatebion sydd i ddod gan awdurdodau lleol fel mater o flaenoriaeth.

</AI12>

<AI13>

3.8   P-05-860 Dylid gwneud Gwersi Sgiliau Bywyd yn Orfodol ar y cwricwlwm

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y Gweinidog Addysg am y ddeiseb hon a P-05-861 Gwneud addysg wleidyddol yn elfen orfodol o'r cwricwlwm cenedlaethol newydd, a chytunodd i aros am farn y deisebwyr am y wybodaeth bellach a ddarparwyd gan y Gweinidog Addysg cyn penderfynu a yw'n gallu cymryd unrhyw gamau pellach ynghylch y deisebau.

</AI13>

<AI14>

3.9   P-05-861 Gwneud addysg wleidyddol yn elfen orfodol o'r cwricwlwm cenedlaethol newydd

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y Gweinidog Addysg am y ddeiseb hon a P-05-860 Dylid gwneud Gwersi Sgiliau Bywyd yn Orfodol ar y cwricwlwm, a chytunodd i aros am farn y deisebwyr am y wybodaeth bellach a ddarparwyd gan y Gweinidog Addysg cyn penderfynu a yw'n gallu cymryd unrhyw gamau pellach ynghylch y deisebau.

</AI14>

<AI15>

3.10 P-04-477 Cefnogi'r Bil Rheoli Cŵn (Cymru)

Cytunodd y Pwyllgor i dderbyn cynnig y Gweinidog o ddiweddariad pellach maes o law ac i ystyried camau gweithredu pellach bryd hynny.

</AI15>

<AI16>

3.11 P-05-852 Cyflwyno trwydded i reoli tir ar gyfer saethu adar hela mewn ymgais i roi terfyn ar erlid adar ysglyfaethus

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig a chytunodd i aros am farn y deisebydd am hyn cyn ystyried unrhyw gamau pellach ynghylch y ddeiseb.

 

</AI16>

<AI17>

3.12 P-05-856 Rhaid gwahardd gwerthu cŵn bach gan siopau anifeiliaid anwes a phob gwerthwr trydydd parti masnachol yng Nghymru

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig a chytunodd i gadw llygad ar y mater hwn nes gweld canlyniad ymgynghoriad presennol Llywodraeth Cymru ar waharddiad, cyn ystyried unrhyw gamau pellach y gallai fod angen eu cymryd ynghylch y ddeiseb.

</AI17>

<AI18>

3.13 P-05-859 Dylid Darparu Tai Plant yng Nghymru i Blant sy'n Dioddef Camdriniaeth Rywiol

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Chomisiynydd Plant Cymru a chytunodd ar y camau a ganlyn:

 

</AI18>

<AI19>

3.14 P-05-836 Adroddiadau ar y Bwlch Cyflog rhwng y Rhyweddau

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth gan y deisebydd a chytunodd i ymateb yn ysgrifenedig i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, gan nodi'r ymrwymiad y mae hi wedi'i fynegi i gydraddoldeb rhwng y rhyweddau a bod yn fwy agored, ond gan ofyn am syniad mwy eglur o'r amserlenni ar gyfer gwneud penderfyniadau mewn perthynas â'r gofynion ar gyrff cyhoeddus i wneud adroddiadau.

</AI19>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>